20,000 o Saint, dywedir, sydd wedi eu claddu ar Ynys Enlli.
Mae’n ddelwedd anhygoel, sy’n gwneud i rywun feddwl bod pob modfedd o’r ynys ddihafal yma yn sanctaidd a chysygredig.
Ond i’r Celt roedd ‘sant’ yn enw a roddid i Gristion neu aelod o lwyth eglwysig. Yn yr Eglwys Ladinaidd roedd ‘sant’ yn deitl o statws anrhydeddus. Ni lwyddodd crefydd yr Eglwys Ladinaidd gyrraedd Llŷn yn yr un modd â dylanwad yr Eglwys Geltaidd. O Iwerddon, Llydaw a Chernyw daeth y grefydd newydd yma gan y Cristnogion cynnar.
Yn y 5ed ganrif sefydlwyd cymuned feudwyaidd yn Aberdaron a hynny yn ardal Capel Anelog yng nghyfnod cynnar yr Eglwys Geltaidd.
Seintiau Llŷn
Brenin Einion
Nawddsant plwyf Llanengan. Yn Eglwys Llanengan mae carreg goffa iddo o’r 5ed ganrif. Ef sefydlodd y fynachlog gyntaf ar Enlli.
Cadfan
Mynach oedd Cadfan a cafodd ei erlid o Lydaw. Glaniodd yn Nhywyn yn Meirionnydd a sefydlu eglwys yno. Yna, croesodd i Lŷn a dod yn abad cyntaf y fynachlog ar Enlli tua 516-542 O.C
Lleuddad
Un o’r seintiau sydd wedi dylanwadu fwyaf ar Lŷn. Roedd yn frawd i Henwyn a Padarn, a’r tri ohonynt wedi dilyn Cadfan o Lydaw. Dilynodd Lleuddad Cadfan yn abad ar yr ynys.
Pan ymddangosodd angel i ddweud wrth Lleuddad bod rhaid iddo baratoi at ei farwolaeth, gofynnodd i fynaich Enlli gael hir oes ar yr ynys ac mai o henaint yn unig y byddent farw. O hyn deilliai’r traddodiad bod 20,000 o saint wedi eu claddu yno.
Ger Porth Cadlan mae Ogof Lleuddad, lle byddai’r saint yn dianc i weddïo.
Ym Mryncroes roedd Eglwys Lleuddad, ac yno heddiw mae Ffynnon Lleuddad a Bryn Lleuddad.
Maelrhys
Cefnder i Cadfan oedd Maelrhys. Sefydlwyd Eglwys Llanfaelrhys ganddo rhwng Y Rhiw ac Aberdaron. Yma hefyd mae Ffynnon Maelrhys.
Tudwal
Cefnder arall i Cadfan oedd Tudwal, a roedd yn fab i Riwal Mawr. Sefydlodd fynachlog ar Ynysoedd Tudwal.
Beuno
Roedd Beuno yn un o seintiau mwyaf dylanwadol y gogledd, a dywed ei fod yr un mor ddylanwadol â Dewi Sant yn y de. Mae ef a’i ddilynwyr wedi sefydlu sawl eglwys yn y gogledd orllewin. Ef yw sant eglwysi Pistyll, Carnguwch, Deneio a Botwnnog. Sefydlodd fynachlog yng Nghlynnog Fawr ac mae dal pwysigrwydd mawr iddi. Yma arferai’r pererinion ymgasglu cyn cychwyn ar eu taith olaf i Enlli.
Sefydlu Eglwys
Wrth sefydlu eglwys roedd mynach yn cael darn o dir, gan uchelwr mae’n debyg, ac o fewn y darn hwnnw byddai’n adeiladu eglwys o goed, ac yno byddai canolbwynt ysbrydol yr ardal.
Yr Eglwys oedd y ‘llan’ ac yna ychwanegid enw’r sant.
e.e Llanbedrog, Llangian, Llaniestyn
sef Pedrog, Cian, Iestyn
Disgyblion Cadfan a Beuno oedd y rhan fwyaf o’r seintiau. Bwriad y seintiau oedd i genhadu eu ffydd i drigolion Llŷn, ac fe weithiodd. Mae’r seintiau wedi llwyddo i sefydlu eglwysi ymhob twll a chornel o Lŷn ac mae eu henwau yn bont ar hyd y canrifoedd i’n byd ni heddiw.